Clwb Rygbi y Bala Rugby Club
Egni a lwydd
-
Facebook
-
Instagram
O ran ei hanfod mae Clwb Rygbi y Bala yn glwb cymunedol ac yn gwasanaethu y gymdeithas ym Mhenllyn, Edeyrnion, Uwchaled a thu hwnt.
Mae’r ysbryd cymunedol yma i’w weld yn y cyfan yr ydym yn ei wneud a hynny yn arwain at hwyl a mwynhad pawb o fewn y clwb. Mae Clwb Rygbi y Bala yn credu bod rygbi yn fwy na champ yn unig; mae’n ffordd o fyw.
Mae ein hymrwymiad i ddatblygu unigolion crwn a chyflawn yn ymestyn y tu hwnt i’r cae. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar feithrin gwerthoedd gwaith tîm, chwarae’n deg a chymeryd cyfrifoldeb yn ein chwaraewyr, gan feithrin ynddynt yr hyder i ragori ar ac oddi ar y cae.
Mae ein gwerthoedd o fod yn gynhwysol, parchus, croesawgar ac uchelgeisiol wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna mewn gwirionedd yw ethos Clwb Rygbi Y Bala sy’n cael ei adlewyrchu’n glir a’i gefnogi’n gadarn yn ein nodau fel clwb sy’n cynnwys bod yn glwb o ansawdd uchel, sy’n cael ei redeg yn dda a sy’n cynnig cyfleoedd i bob oedran, rhyw a lefel o allu; bod yn glwb sy’n cael ei gydnabod fel cyfrannwr gwerthfawr i’r gymuned leol a’r ardal gyfagos a bod yn glwb a chymuned gyda diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus.
Heb amheuaeth dyna pam fod y Clwb wedi gwneud cymaint o gynnydd ers ei sefydlu yn 1980 ac yn parhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Dyna pam hefyd ein bod fel clwb yn medru edrych ymalen yn hyderus at ddyfodol llewyrchus. Heb os nac onibai clwb sydd yn edrych ymlaen yn hyderus yw Clwb Rygbi y Bala ar ac oddiar y cae.
Mae’r clwb wedi ei adeiladu ar seiliau cadarn yn weinyddol ac ariannol. Rydym yn berchen ar ein hadnoddau ac mae gennym gynlluniau i’w datblygu i’w llawn botensial a hynny er budd nid yn unig i’n haelodau ond i’r gymuned yn gyffredinol. Mae mwy a mwy o blant, yn fechgyn a merched, yn dod i chwarae I’r clwb ac rydym nid yn unig yn croesawu hynny ond hefyd yn benderfynnol o wneud pob dim o fewn ein gallu i sicrhau bod hynny’n parhau. O wneud hynny mae dyfodol ein timau oedolion yn gadarn iawn.
Rydym fel clwb yn gwbl ymroddedig i wella sgiliau pob unigolyn o fewn eu gallu a sicrhau fod pob aelod yn mwynhau y profiad o fod yn perthyn i Glwb Rygbi y Bala. Mae ein hyfforddwyr yn gymwys ac wedi dilyn cyrsiau hyfforddi Lefel 1 ac i’r rhai hynny sydd am ddilyn cyrsiau pellach Lefel 2 neu 3 mae’r clwb yn fodlon ymgymeryd a’r costau.
Rydym hefyd yn ystyried pob ffordd o wella ein hadnoddau yn cynnwys y caeau, yr ystafelloedd newid ac Ystafell Yogi a’r cyfarpar ar gyfer y chwaraewyr. Mae gennym gynlluniau ar gyfer ehangu y bar a’r ddarpariaeth lletygarwch, ehangu y maes parcio, sefydlu ystafell ffitrwydd a maes ymarfer 3G. Credwn y dylai URC fod yn edrych ar y clwb fel man i sefydlu cae rygbi artiffisial addas ar gyfer chwarae rygbi yn y canolbarth. Rydym yn awyddus i barhau a datblygu fel hwb i Wylliaid Meirionnydd.
Newyddion o Maes Gwyniad - latest news from maes gwyniad
stwff y wru yma
facebook feed yma
🏉 ein Noddwyr - our sponsors 🏉
🏉 Ymlyniadau - Affiliations 🏉

