Yn ein dosbarth ni, rydym yn anelu at gael disgyblion i fod yn annibynnol, i allu dyfalbarhau a gwella eu gwaith. Maent yn ymarfer sgiliau y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd trwy weithgareddau amrywiol a diddorol yn yr ardaloedd. A thrwy gyfnodau Ffocws o dan arweiniad yr athrawes a’r cymhorthydd.