Menu Close

Hanes

Sefydlwyd Clwb Rygbi Y Bala yn 1980 fel tim โ€˜iauโ€™ o fewn strwythur Undeb Rygbi Cymru yr adeg honno gan chwarae nifer o gemau cyfeillgar yn erbyn ail neu drydydd timau clybiau rygbi cyfagos. Defnyddiwyd caeau a chyfleusterauโ€™r ysgol ar gyfer y gemau.

Ymhen amser cafodd y clwb fenthyciad gan wr busnes lleol I brynu caeau ar gyfer chwarae rygbi a daeth Maes Tegid yn gartref iโ€™r clwb. Crewyd dau gae ac yna ymhen blynyddoedd daeth cyfle I brynu tir ychwanegol a chreu trydydd cae chwarae. Maeโ€™r clwb yn falch iawn oโ€™r ffaith eu bod yn berchen ar Faes Tegid ac wedi gweithioโ€™n galed i ad-daluโ€™r ddyled.

Y cam nesa yn natblygiad y clwb oedd cael cyfleusterau ar y cae a chyda cymorth gwirfoddol aelodau a chyn-aelodau gyda sgiliau cynllunio ac adeiladu a drwy ymgyrchoedd codi arian llwyddwyd i godi adeilad pwrpasol yn cynnwys pedwar o ystafelloedd newid, ystafell Iโ€™r dyfarnwr, ystafell cymorth cyntaf, cegin a thoiledau. Yn ystod y blynyddoedd yma byddai holl dimau y clwb yn oedolion, ieuenctid a phlant yn mynd Iโ€™r Plas Coch, tafarn yn y Bala am luniaeth ar รดl y gemau. Nid oedd hyn yn ddelfrydol yn arbennig o ran y plant.

Roedd gan Brian โ€˜Yogiโ€™ Davies, chwaraewr a hyfforddwr a barlyswyd mewn damwain yn y sgrym yn ystod ei gem ola Iโ€™r clwb weledigaeth o godi estyniad Iโ€™r ystafelloedd newid. Byddai yn cynnwys ystafell a chegin fyddaiโ€™n le I blant gael cyfarfod a chael bwyd ar ol ei gemau. Yn anffodus bu farw Yogi cyn gweld ei weledigaeth yn cael ei wireddu ond unwaith eto llwyddwyd I godiโ€™r estyniad sydd yn cael ei adnabod fel Ystafell Yogi. Dyma erbyn hyn lle mae holl dimauโ€™r clwb yn cyfarfod ar รดl gemau am fwyd a diod ac yn le hefyd lle mae cefnogwyr a chyn-chwaraewyr yn medru mynd am ddiod a sgwrs.

Llwyddodd y clwb yn ddiweddar I gael trwydded lawn ac mae cynlluniau ar y gweill I ymestyn y bar. Maeโ€™r datblygiadau hyn yn sicr wedi dyfnhau yr ymdeimlad o berthyn ymysg aelodauโ€™r clwb o bob oedran. O ran datblygiadau eraill maeโ€™r clwb yn ddiweddar wedi prynu y maes parcio gan Barc Cenedlaethol Eryri ac mae cynlluniau Iโ€™w ehangu, yn ogystal a chynllun I ddarparu ystafell ffitrwydd Iโ€™r chwaraewyr. Mae ymholiadau hefyd yn cael eu gwneud ynglyn aโ€™r posibilrwydd o gael cae ymarfer 4G.

Mae Clwb Rygbi Y Bala wedi tyfu o fod ag un tรฎm o ddynion i ymfalchรฏo bellach mewn dros 350 o aelodau syโ€™n chwarae (dynion a menywod ym mhob oedran rhwng 6 a 50 oed). Ar hyn o bryd, mae gan y clwb ddau dรฎm dynion hลทn (tรฎm 1af ac 2il) a thรฎm merched hลทn, pob un wedi’i ategu gan dimau ieuenctid gwrywaidd a benywaidd. Rydym yn darparu rygbi plant i ferched a bechgyn dan 8, dan 10, dan 12, dan 14 a dan 16. Maeโ€™r clwb hefyd yn hwb ar gyfer timau merched Gwylliaid Meirionnydd. Profwyd cryn lwyddiant dros y blynyddoedd gyda tim cyntaf y dynion yn ennill Prig Gynghrair y Gogledd, y Tim Merched Hyn yn ennill y Bowlen Genedlaethol yn Stadiwm y Principality eleniย  a Chynghrair y Gogledd ac maeโ€™r llwyddiannau o ran y timoedd iau bechgyn a merched yn rhy niferus Iโ€™w henwi. Mae nifer oโ€™r clwb hefyd wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau ac oedran.

ย Ochr yn ochr รข’r nod craidd o hyrwyddo rygbi yn y Bala, mae gan y clwb rรดl bwysig wrth ddarparu cyfleoedd i unigolion o bob gallu ac oedran gadw’n heini a mwynhau’r gรชm. Yn ystod ac ar รดl COVID, roedd perygl sylweddol o bobl ifanc yn cael eu hynysu ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig fel y Bala. Mae’r clwb wedi cymryd rรดl flaenllaw wrth weithio gydag ysgolion a sefydliadau lleol i ddarparu lle diogel i fechgyn a merched gymryd rhan mewn gweithgareddau iach rheolaidd. Mae’r bobl ifanc hynny nad ydynt yn arbennig o awyddus i chwarae yn cael eu hannog i wneud rhywfaint o waith ffitrwydd ac i wirfoddoli yn y clwb.

Translate ยป