Cymuned

Ymgysylltiad â’r gymuned

Ers y cychwyn cyntaf mae Clwb Rygbi y Bala wedi bod yng nghalon y gymuned.

Bu cysylltiad agos efo’r ysgol Uwchradd a’r ysgolion cynradd o’r dechrau a threfniant bod yr ysgolion yn cael defnyddio adnoddau’r clwb ar un llaw a’r clwb yn cael defnyddio adnoddau’r ysgol fel y cae 3G ar y llaw arall a hynny heb gost I’r naill na’r llall. Mae hyfforddwyr y clwb hefyd ar gael I hyfforddi timau’r ysgol pan fo angen a Maes Tegid a’I holl adnoddau ar gael ar gyfer cynnal twrnamentau rygbi ysgolion. Mae’r trefniant yma yn parhau a’r berthynas rhwng y clwb a’r ysgolion yn mynd o nerth I nerth. Roedd y clwb hefyd gyda’r ysgol uwchradd a’r ysgolion cynradd yn ariannu gyda URC y Swyddog Datblygu Rygbi yn yr ardal. A’r ôl I’r trefniant yna ddod I ben a’r swydd yn cael ei diddymu penderfynodd y clwb ynghyd â’r ysgolion cynradd gyd-ariannu y cyn Swyddog Datblygu Rygbi dros fisoedd y gaeaf. Mae’r trefniant yma wedi bod yn llwyddiant mawr.

Mae’r clwb hefyd yn darparu lleoliad i grwpiau lleol yr Urdd gynnal eu twrnamentau a’u mabolgampau yn ogystal â darparu cefnogaeth i ddigwyddiadau chwaraeon blynyddol fel Triathlon y Bala. O bryd I’w gilydd a phan fo angen mae’r clwb yn trefnu digwyddiadau ar gyfer codi arian I elusennau o ddewis y teulu er cof am gyn-chwaraewyr a chyn aelodau. Mae’r clwb hefyd yn rhoi benthyg ei hadnoddau megis pabell, byrddau a chadeiriau I gymdeithasau o fewn y gymuned sydd eu hangen ar gyfer achlysuron arbennig. Ar adegau eraill mae’r clwb yn cefnogi ymgyrchoedd elusennol o fewn y gymuned gan sicrhau bod anoddau’r clwb ar gael. Mae llawer o sefydliadau lleol yn defnyddio’r clwb ar gyfer  pob math o gyfarfodydd ac ar gyfer achlysuron teuluol megis partion. Defnyddir y clwb hefyd I ddarparu lluniaeth ar gyfer te angladdau. Mae Clwb Rygbi y Bala yn un o’r ychydig os nad yr unig un sydd â Chôr Meibion ei hun – sef Côr Yogi sy’n cynnwys aelodau, chwaraewyr a chyn-chwaraewyr ynghyd a chefnogwyr eraill o’r gymuned. Mae’r côr fwy nag unwaith wedi canu yn y Pricipality cyn gemau rhyngwladol, wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnal cyngherddau yn y gymuned ac yn canu carolau yng ngweithgareddau Bala adeg y Nadolig. Maent hefyd wedi cyfrannu mewn sawl angladd.

 Mae’r clwb wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, teg a chyfeillgar i blant ac oedolion ddatblygu a dysgu sgiliau newydd ar ac oddi ar y cae. Nod y clwb yw datblygu a chynnal amgylchedd diogel a chadarnhaol i bob plentyn ac oedolyn sydd mewn perygl. Mae Clwb Rygbi Y Bala yn glwb sy’n cael ei redeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.

Mae croeso cynnes bob amser I aelodau,chwaraewyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr newydd I rannu yn holl agweddau Clwb Rygbi y Bala a hynny heb unrhyw fath o ragfarn a gwahaniaethu. Ein gobaith yw cael pobl a phlant o bob oed beth bynnag fo’u cefndir,rhyw neu allu I fwynhau rygbi a’r hwyl sy’n dod o berthyn i gymuned agos, cyfeillgar a gofalgar.

Arwyddair Clwb Rygbi y Bala yw ‘egni a lwydd’ ac yn sicr o edrych ar hanes y clwb a’r cynnydd sydd wedi bod dros y blynyddoedd mae hynny yn hollol wir. O barhau gyda’r un egni bydd y clwb yn sicr yn llwyddo I wireddu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol a’r datblygiadau cyffrous sy’n rhan o’r weledigaeth honno.

Community engagement

Since the very beginning, Bala Rugby Club has been at the heart of the community.

There was a close link with the Secondary school and the primary schools from the outset and it was arranged that the schools were allowed to use the club’s resources on the one hand and the club was allowed to use the school’s resources such as the 3G pitch on the other hand at no cost to either of them. The club’s coaches are also available to coach the school’s teams when required and Maes Tegid and all its resources are available for hosting school rugby tournaments. This arrangement continues and the relationship between the club and the schools is going from strength to strength. The club was also with the secondary school and primary schools funding with the WRU the Rugby Development Officer in the area. And after that arrangement came to an end and the post was abolished, the club, along with the primary schools, decided to co-fund the former Rugby Development Officer over the winter months. This arrangement has been a great success.

The club also provides a venue for local Urdd groups to hold their tournaments and sports as well as providing support for annual sporting events such as the Bala Triathlon. From time to time and when necessary the club organises events for fundraising for charities of the family’s choice in memory of former players and former members. The club also lends its resources such as a tent, tables and chairs to societies within the community that are needed for special occasions. At other times the club supports charitable campaigns within the community ensuring that the club’s resources are available. Many local organizations use the club for all kinds of gatherings and for family occasions such as parties. The club is also used to provide refreshments for funeral teas. Bala Rugby Club is one of the few if not the only one to have its own Male Voice Choir – a Yogi Choir made up of members, players and former players as well as other supporters from the community. The choir has more than once sung at the Pricipality before international matches, competed at the National Eisteddfod, held concerts in the community and sang carols at Bala’s Christmas activities. They have also contributed at several funerals.

 The club is committed to providing a safe, fair and friendly environment for children and adults to develop and learn new skills on and off the pitch. The aim of the club is to develop and maintain a safe and positive environment for all children and adults at risk. Bala Rugby Club is a community run club, for the community.

New members, players, volunteers and supporters are always warmly welcome to share in all aspects of Bala Rugby Club without any form of bias and discrimination. Our hope is to have people and children of all ages regardless of their background, gender or ability to enjoy rugby and the fun that comes from belonging to a close, friendly and caring community.

The motto of Bala Rugby Club is ‘energy and success’ and certainly looking at the history of the club and the progress that has been made over the years that is absolutely true. By continuing with the same energy the club will certainly succeed in realising its vision for the future and the exciting developments that are part of that vision.