Sefydlwyd Clwb Rygbi Y Bala yn 1980 fel tim โiauโ o fewn strwythur Undeb Rygbi Cymru yr adeg honno gan chwarae nifer o gemau cyfeillgar yn erbyn ail neu drydydd timau clybiau rygbi cyfagos. Defnyddiwyd caeau a chyfleusterauโr ysgol ar gyfer y gemau.
Ymhen amser cafodd y clwb fenthyciad gan wr busnes lleol I brynu caeau ar gyfer chwarae rygbi a daeth Maes Tegid yn gartref iโr clwb. Crewyd dau gae ac yna ymhen blynyddoedd daeth cyfle I brynu tir ychwanegol a chreu trydydd cae chwarae. Maeโr clwb yn falch iawn oโr ffaith eu bod yn berchen ar Faes Tegid ac wedi gweithioโn galed i ad-daluโr ddyled.
Y cam nesa yn natblygiad y clwb oedd cael cyfleusterau ar y cae a chyda cymorth gwirfoddol aelodau a chyn-aelodau gyda sgiliau cynllunio ac adeiladu a drwy ymgyrchoedd codi arian llwyddwyd i godi adeilad pwrpasol yn cynnwys pedwar o ystafelloedd newid, ystafell Iโr dyfarnwr, ystafell cymorth cyntaf, cegin a thoiledau. Yn ystod y blynyddoedd yma byddai holl dimau y clwb yn oedolion, ieuenctid a phlant yn mynd Iโr Plas Coch, tafarn yn y Bala am luniaeth ar รดl y gemau. Nid oedd hyn yn ddelfrydol yn arbennig o ran y plant.
Roedd gan Brian โYogiโ Davies, chwaraewr a hyfforddwr a barlyswyd mewn damwain yn y sgrym yn ystod ei gem ola Iโr clwb weledigaeth o godi estyniad Iโr ystafelloedd newid. Byddai yn cynnwys ystafell a chegin fyddaiโn le I blant gael cyfarfod a chael bwyd ar ol ei gemau. Yn anffodus bu farw Yogi cyn gweld ei weledigaeth yn cael ei wireddu ond unwaith eto llwyddwyd I godiโr estyniad sydd yn cael ei adnabod fel Ystafell Yogi. Dyma erbyn hyn lle mae holl dimauโr clwb yn cyfarfod ar รดl gemau am fwyd a diod ac yn le hefyd lle mae cefnogwyr a chyn-chwaraewyr yn medru mynd am ddiod a sgwrs.
Llwyddodd y clwb yn ddiweddar I gael trwydded lawn ac mae cynlluniau ar y gweill I ymestyn y bar. Maeโr datblygiadau hyn yn sicr wedi dyfnhau yr ymdeimlad o berthyn ymysg aelodauโr clwb o bob oedran. O ran datblygiadau eraill maeโr clwb yn ddiweddar wedi prynu y maes parcio gan Barc Cenedlaethol Eryri ac mae cynlluniau Iโw ehangu, yn ogystal a chynllun I ddarparu ystafell ffitrwydd Iโr chwaraewyr. Mae ymholiadau hefyd yn cael eu gwneud ynglyn aโr posibilrwydd o gael cae ymarfer 4G.
Mae Clwb Rygbi Y Bala wedi tyfu o fod ag un tรฎm o ddynion i ymfalchรฏo bellach mewn dros 350 o aelodau syโn chwarae (dynion a menywod ym mhob oedran rhwng 6 a 50 oed). Ar hyn o bryd, mae gan y clwb ddau dรฎm dynion hลทn (tรฎm 1af ac 2il) a thรฎm merched hลทn, pob un wedi’i ategu gan dimau ieuenctid gwrywaidd a benywaidd. Rydym yn darparu rygbi plant i ferched a bechgyn dan 8, dan 10, dan 12, dan 14 a dan 16. Maeโr clwb hefyd yn hwb ar gyfer timau merched Gwylliaid Meirionnydd. Profwyd cryn lwyddiant dros y blynyddoedd gyda tim cyntaf y dynion yn ennill Prig Gynghrair y Gogledd, y Tim Merched Hyn yn ennill y Bowlen Genedlaethol yn Stadiwm y Principality eleniย a Chynghrair y Gogledd ac maeโr llwyddiannau o ran y timoedd iau bechgyn a merched yn rhy niferus Iโw henwi. Mae nifer oโr clwb hefyd wedi cynrychioli Cymru ar wahanol lefelau ac oedran.
ย Ochr yn ochr รข’r nod craidd o hyrwyddo rygbi yn y Bala, mae gan y clwb rรดl bwysig wrth ddarparu cyfleoedd i unigolion o bob gallu ac oedran gadw’n heini a mwynhau’r gรชm. Yn ystod ac ar รดl COVID, roedd perygl sylweddol o bobl ifanc yn cael eu hynysu ac yn dioddef o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig fel y Bala. Mae’r clwb wedi cymryd rรดl flaenllaw wrth weithio gydag ysgolion a sefydliadau lleol i ddarparu lle diogel i fechgyn a merched gymryd rhan mewn gweithgareddau iach rheolaidd. Mae’r bobl ifanc hynny nad ydynt yn arbennig o awyddus i chwarae yn cael eu hannog i wneud rhywfaint o waith ffitrwydd ac i wirfoddoli yn y clwb.
