Rydym yn elusen gofrestredig sy’n cynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim, ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Mae Cyngor ar Bopeth Conwy Gwynedd yn elusen. Ein nod yw darparu’r cyngor sydd ei angen ar bobl ar gyfer y problemau maen nhw’n eu hwynebu ac ymgyrchu i wella’r polisïau a’r arferion sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn annibynnol, yn gyfrinachol ac yn ddiduedd. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth, yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn herio gwahaniaethu.

Rydym yn un o’r elusennau sy’n ffurfio rhwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru a Lloegr. Mae cyfoeth o wybodaeth ar gael o’n gwefan genedlaethol yma. Os oes angen cymorth pellach arnoch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod neu os ydych chi eisiau rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth lleol, cliciwch yma.