Cyfleoedd i gefnogi eich cymuned leol

Mae Cyngor ar Bopeth Conwy Gwynedd yn elusen leol sy’n darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i unigolion a theuluoedd sy’n byw yng Ngonwy a Gwynedd. Mae pob ceiniog rydym yn derbyn trwy roddion a chronfeydd yn cael ei wario ar drigolion Conwy a Gwynedd yn unig, rydym yn sefydliad di-elw.

Mae yna amryw o ffyrdd i helpu Cyngor ar Bopeth Conwy Gwynedd.

Fedrwch enwebu ni fel eich elusen ddewisol drwy easyfundraising.com wrth sganio’r cod QR isod. Mae hynny yn hollol rad ac am ddim i chi, mae’n gweithio fel estyniad ar eich porwr neu drwy eu ap, wedyn rydym yn derbyn arian o unrhyw bryniannau rydych yn gwneud o ddydd i ddydd.  Os hoffech wybod mwy am sut mae hyn yn gweithio, ewch i easyfundraising.com neu sganiwch y cod QR yma:

Os ydych yn fodlon gwneud cyfraniad ariannol, cliciwch yma. Chi sy’n penderfynu faint y byddwch yn ei roi. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar roddion gan unigolion a sefydliadau elusennol a grantiau gan y llywodraeth ar bob lefel.

Hefyd, rydym yn falch iawn i fod un o’r elusennau sydd yn cael eu cefnogi gan faer Llandudno Antony Bertoli. Ar hyd penwythnos diwethaf roedd ‘na ddwy sesiwn nofio noddedig er mwyn codi arian i gefnogi cleientiaid Cyngor ar Bopeth yng Nghonwy a Mind Conwy. Os ydych eisiau rhoi arian i’w ddigwyddiad, dyma’r linc i’r dudalen justgiving

Darganfyddwch mwy am ymuno a’n tîm fel gwirfoddolwr neu aelod o staff cyflogedig.

Hoffech chi fod yn rhan o reoli’r elusen? Ffordd syml iawn i’n cefnogi os nad ydych am fod yn gynghorydd gwirfoddol yw dod yn aelod o’r elusen. Manylion pellach yma. Mae’r aelodau (sydd ddim yn staff nac yn weithwyr gwirfoddol yn ein canolfannau) yn pleidleisio yn ein cyfarfod blynyddol ac yn apwyntio ein hymddiriedolwyr – i ddarganfod mwy am y rôl bwysig o ymddiriedolwr cliciwch yma.