Hoffwn rannu gyda chi gwybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrchoedd ‘rydym yn rhan ohono er mwyn gwellhau lles pobl yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth materion cyfredol. Cadwch cip olwg am eitemau newyddion ar ochr dde’r dudalen hon.
Mae’r bobl rydyn ni’n eu gweld ac yn eu cynghori o ddydd i ddydd yn ychwanegu lliw bywyd go iawn i’r straeon rydyn ni’n clywed amdanyn nhw yn y newyddion, a all weithiau deimlo’n haniaethol ac yn bell. O’r argyfwng costau byw i’r diffyg tai sydd ar gael, ac o arferion cyflogaeth wael i’r cynnydd aruthrol yng nghostau hanfodion, mae’r amrywiaeth enfawr o anawsterau yr ydym yn gweld pobl yn eu hwynebu yn caniatáu inni ddefnyddio eu profiadau fel tystiolaeth, i geisio newid achosion y problemau hynny er gwell.
Yn ddiweddar, fe wnaethom gwrdd efo’r Aelodau Seneddol lleol i drafod profiad cleient a oedd wedi dioddef gwahaniaethu ar sail mamolaeth gan ei chyflogwr, ond nad oedd yn gallu mynd â’i chyflogwr i’r Tribiwnlys Cyflogaeth oherwydd y terfynau amser. Mae’r terfyn amser o 3 mis ar gyfer gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn llawer rhy fyr i rywun sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar ystyried mynd â’u cyflogwr i Dribiwnlys hefyd. Roedd ein Haelodau Seneddol yn gefnogol iawn i’r syniad o ymestyn y terfyn hyd at o leia’ 6 mis ac yn bwriadu codi’r broblem yn San Steffan. Rydym wedi codi’r pwynt efo Cyngor ar Bopeth cenedlaethol ac yn bwriadu cydweithio efo mudiadau arall ar hyn e.e. Pregnant then Screwed.
Mae’r argyfwng costau byw hefyd wedi amlygu ystod o faterion i ymgyrchu arnynt. Mae Cyngor ar Bopeth wedi bod yn cynnal sesiynau briffio cenedlaethol rheolaidd ar effaith yr argyfwng gyda dangosfwrdd i helpu i ddelweddu maint yr effaith ariannol ar fywydau pobl. Mynychwyd y sesiynau briffio hyn gan sefydliadau cyfryngau lleol a chenedlaethol sy’n helpu i dynnu sylw at y materion, yn ogystal ag arbenigwyr polisi sy’n rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut y gellir mynd i’r afael â rhai o’r problemau.
Mae data costau byw ar gyfer Cymru wedi’u cyflwyno yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Yn lleol, mae’r argyfwng costau byw wedi arwain at glytwaith o fesurau a ddosberthir gan lywodraeth genedlaethol a lleol, gyda graddau amrywiol o lwyddiant o ran pa mor dda y mae’r cymorth ariannol sydd ar gael wedi cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf. Rydym yn gweithio’n agos efo Cynghorau Conwy Gwynedd a chymdeithasau tai lleol i gydlynu ein gwaith i helpu pobl.
Bydd Cyngor ar Bopeth Conwy Gwynedd, ynghyd â swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol eraill, yn cydweithio â Chyngor ar Bopeth Cymru i ddeall a gwerthuso sut mae’r amryw fesurau wedi gweithio’n dda, a sut nad ydynt, i geisio sicrhau bod mesurau tebyg yn y dyfodol yn cyrraedd mewn gwirionedd y bobl sydd ei angen fwyaf, pan fyddant ei angen fwyaf!
Byddwn yn darparu diweddariadau ar yr holl faterion hyn a mwy yn y dyfodol wrth i ni barhau i ymgyrchu i wella bywydau pobl, yn lleol ac yn genedlaethol.
Rydym yn annog staff a gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn y Grwpiau Ecwiti cenedlaethol (Grwpiau Rhwydwaith gynt). Maent yn yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at greu gwasanaeth mwy amrywiol a chynhwysol a hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn Cyngor ar Bopeth. Ma gwybodaeth am rôl y Grwpiau ar gael yma a gwybodaeth pellach am y grwpiau a sut i ymuno ar gael isod:
Mehefin 2022
Awst 2021
Arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru
Ebrill 2021
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiadau Senedd 2021. Mae’r cynigion wedi’u seilio ar y dystiolaeth a gasglwn gan ein cleientiaid. Dyna pam rydyn ni’n hyderus y bydd y cynigion hyn yn gwneud bywyd yn well i bobl yng Nghymru. Cliciwch yma i’w ddarllen. Mae croeso i chi codi’r pwyntiau ynddi efo ymgeiswyr lleol.
Rhagfyr 2020
02/12/2020 – BHC 365 Diwylliant a Chymuned Tsieineaidd a Chymraeg
Tachwedd 2020
27/11/2020 – Diwrnod Codi Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd 2020
16/11/2020 – 22/11/2020 – Datganiad i’r Wasg ar Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr
Arbedion Ynni Mawr y Gaeaf (BESW) 2020/21
Yn ystod mis Tachwedd, byddem yn rhoi cyngor i chi ar sut i – Chwilio
04/11/2020 – Sgyrsiau gyda phobl am Droseddau Casineb
03/11/2020 – Addewid Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar Gydraddoldeb Hiliol (Arolwg ) *Cau ar ddydd Gwener y 13eg o Dachwedd 2020
02/11/2020 – Caethweision, Siwgr a Siocled
Hydref 2020 – Hanes Pobl Dduon – 2000 Cenedl | Dathlu Amrywiaeth
- 30/10/2020 – Hanes ac Etifeddiaeth John Edward ‘Eddie’ Parris
- 28/10/2020 – Seren Tanaka Lloyd Jones a’r Black Swimming Association
- 26/10/2020 – Hanes ac Etifeddiaeth Betty Campbell MBE
- 23/10/2020 – Bywgraffiad Hilary Patricia Brown
- 21/10/2020 – Sut i barchu fy enw ethnig
- 19/10/2020 – Hanes ac Etifeddiaeth Clive Sullivan MBE
- 16/10/2020 – Hanes ac Etifeddiaeth yr Athro Davidson Don Tengo Jabavu
- 14/10/2020 – Llinell Amser: Amseroedd Allweddol yn Hanes Prydain Ddu
- 12/10/2020 – Bywgraffiad Dr Mahdi Mabruk Jibani MBE
- 09/10/2020 – Bywgraffiad yr Athro Charlotte Williams OBE
- 07/10/2020 – Ffeithiau Hil yn y Gweithle (gan Employers Network for Equality and Inclusion – enei)
- 02/10/2020 – Hanes ac etifeddiaeth John Ystumllyn
Mehefin 2020
17/06/2020 – Cynllun Mentora BAME i Fywyd Cyhoeddus 2020/21
22/06/2020 – Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI)
15/06/2020 – Pythefnos Codi Ymwybyddiaeth am Sgamiau 2020
08/06/2020 – Mae Bywydau Duon o Bwys
06/06/2020
- Diweddariad Cydraddoldeb a Gwahaniaethu
- Siart adnabod gwahaniaethu
- Ffynonellau cymorth gyda gwahaniaethu
