Croeso i’r Dosbarth Hynaf. Ein nod yw meithrin dysgwyr sy’n mwynhau dysgu, yn canolbwyntio a dyfalbarhau, yn fodlon rhoi cynnig arni, yn chwilfrydig ac yn sylweddoli fod camgymeriadau yn rhan bwysig o ddysgu. Dysgwyr hefyd sy’n profi llwyddiant trwy waith tîm, ac yn datblygu sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd trwy weithgareddau amrywiol.

Mae gennym ddosbarth braf gyda digon o le. Rydym yn defnyddio syniadau’r dysgwyr i gynllunio themau tymhorol sydd o ddiddordeb iddynt. Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar unedau o waith ar ffurf cwestiwn mawr. Rydym yn defnyddio grwpiau ffocws i addysgu sgiliau i’r dysgwyr er mwyn eu galluogi i ateb y cwestiwn mawr neu ddatrys problem. Cânt gyfle i weithio mewn parau, grwpiau ac fel dosbarth cyfan i gwblhau tasgau amrywiol a datblygu eu hannibynniaeth fel dysgwyr.

Ceisiwn sicrhau fod y dysgwyr yn cael profiadau amrywiol er mwyn magu hyder a chyfoethogi eu haddysg – megis gweithgareddau chwaraeon, ymweliadau, cyrsiau preswyl, gwahodd ymwelwyr i’r dosbarth, cymryd rhan mewn mentrau amrywiol, cefnogi eisteddfodau a gweithgareddau lleol.

Siân A. Jones