Croeso i ddosbarth blwyddyn 2 a 3. Yn y dosbarth yma rydym yn cael y cyfle i ddatblygu i fod yn weithwyr annibynnol. Mae gennym ni nifer fawr o ardaloedd o amgylch y dosbarth lle ceir tasgau amrywiol a diddorol sy’n annog ni i feddwl a thrafod. Trwy ein tasgau amrywiol rydym yn dysgu sut i fentro a cheisio rhywbeth newydd, sut i allu dyfalbarhau a sut i wella ein gwaith.

Yn ddyddiol fe gawn ni weithgareddau darllen, llafar ac ysgrifennu a gemau mathemateg pen. Rydym yn cael ein annog i fod yn greadigol yn ein ardal creu ac wrth ein boddau yn cael defnyddio sgiliau TGCh i gwblhau ein tasgau. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau edrych ar ein tudalen dosbarth.